Ynglŷn â QR Cymraeg
Croeso!

Mae QR Cymraeg yn arf syml ond pwerus i gynhyrchu codau QR dwyieithog 2-mewn-1 ar gyfer y Gymraeg a'r Saesneg. Cafodd y wefan ei lansio yn 2024 ac mae llawer o sefydliadau uchel eu proffil ledled Cymru yn ymddiried ynddo i'w helpu i ymgysylltu'n well â'u cynulleidfaoedd. Diolch am alw heibio.
Mae'r ap gwe wedi cael ei godio gen i, Tom, ym Mro Morgannwg. Byddwn wrth fy modd yn clywed unrhyw adborth neu syniadau, felly cofiwch gysylltu drwy e-bost.
Nid wyf yn credu mewn ymyrryd â'ch preifatrwydd - gweler y Polisi Preifatrwydd am ragor o wybodaeth.
Cynaliadwyedd
Mae angen i ni i gyd gymryd camau i liniaru ac addasu i risgiau newid yn yr hinsawdd.
Mae tudalennau QR Cymraeg wedi'u cynllunio i fod yn ysgafn, gan leihau allyriadau carbon sy'n gysylltiedig â rhedeg a defnyddio'r safle, a chyflawni gradd carbon A+. Rydym hefyd yn rhoi 5% o unrhyw elw ar gynlluniau taledig i elusennau Cymreig sy'n cyfrannu at nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.
Diolchiadau
Rwy'n ddiolchgar i wasanaeth rhad ac am ddim Llywodraeth Cymru, Helo Blod, am gyfieithiadau, a M-SParc am gyngor a chefnogaeth. Mae cod QR yn nod masnach cofrestredig DENSO WAVE.