↑ Yn ôl i'r brig

Cwestiynau cyffredin

A godir tâl am ddefnyddio QR Cymraeg?

Na, mae holl nodweddion cyfredol y wefan yn rhad ac am ddim a byddant yn parhau felly. Nid yw'r wefan yn defnyddio cwcis trydydd parti, yn gwerthu eich data nac yn dangos hysbysebion yn unrhyw le. Os oes diddordeb mewn nodweddion ychwanegol, efallai y codir tâl am rai o'r rhain yn y dyfodol, ond byddai'r nodweddion presennol yn aros yn rhad ac am ddim.

A oes dolen y gallaf ei defnyddio yn lle'r cod QR, i bobl deipio i mewn, neu i'w chael fel hyperddolen yn fy nogfen?

Oes - o dan eich cod QR, dewiswch 'Opsiynau' a rhoddir yr URL ar y gwaelod. Bydd ar ffurf 'qrcymraeg.com/cod 5 nod' . Sylwch y gellir teipio'r pum nod ar ddiwedd yr URL mewn llythrennau mawr neu fach.

A allaf gadw a golygu fy nghodau QR, gweld dadansoddeg (data traffig), addasu fy nghodau ymhellach ac ati?

Mae'r rhain i gyd yn nodweddion yr hoffwn eu hychwanegu at QR Cymraeg, ynghyd ag eraill, os oes digon o ddiddordeb. Cysylltwch â ni os ydych chi'n meddwl y byddai'r rhain yn ddefnyddiol.

Pam mae fy nghodau QR yn ymddangos yn aneglur os byddaf yn eu chwyddo?

Mae dau brif fath o ffeil graffeg yn cael eu defnyddio'n gyffredin - 'bitmap' a 'vector'. Mae ffeil bitmap yn cynnwys y picseli unigol i wneud delwedd, a bydd yn mynd yn aneglur os caiff ei chwyddo y tu hwnt i'w maint gwreiddiol; tra bod ffeil vector yn cynnwys y cyfarwyddiadau a ddefnyddir i wneud delwedd (ee 'tynnu llinell ar y brig, cylch isod' ac ati) a bydd yn graddio i unrhyw faint heb niwlio. Mae ffeiliau PNG yn bitmap, ac mae SVG yn vector. Mae ffeiliau PNG yn tueddu i gael eu cefnogi'n ehangach gan feddalwedd graffeg a dylunio.

Y fformat ffeil rhagosodedig ar gyfer lawrlwythiadau yn QR Cymraeg yw PNG (bitmap) maint canolig. Er mwyn atal y cod rhag mynd yn aneglur pan fyddwch chi'n ei chwyddo, cliciwch ar 'Opsiynau' o dan y cod QR, a naill ai dewiswch y maint delwedd 'Mawr' neu newidiwch y math o ffeil i SVG, yna cliciwch ar 'lawrlwytho'.

Pam ddylwn i ddefnyddio QR Cymraeg yn lle unrhyw generadur cod QR arall?

Oherwydd bod QR Cymraeg...

  • Yn ei gwneud hi'n haws ac yn gyflymach dylunio'ch asedau digidol ac argraffedig, gan gynnwys taflenni, posteri, adroddiadau ac arddangosiad digidol - dim ond un cod QR sydd angen i chi ei gynhyrchu a'i addasu yn hytrach na dau bob tro; ac oherwydd mai dim ond un cod sydd ei angen arnoch yn eich deunyddiau, bydd y broses ddylunio'n haws a'ch gosodiadau'n fwy deniadol hefyd
  • Yn helpu cyrff y sector cyhoeddus i fodloni Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a Safonau'r Gymraeg, drwy fynd ati'n rhagweithiol i hyrwyddo ac ymgorffori'r Gymraeg. Os yw eich codau QR presennol yn anfon eich cynulleidfa i dudalen Saesneg yn ddiofyn a bod angen iddynt wedyn ddod o hyd i ffordd o newid i'r Gymraeg os mai dyna yw eu dewis iaith, nid ydych yn trin y ddwy iaith yn gyfartal.
  • Wedi'i adeiladu yma yng Nghymru - cefnogwch ap a adeiladwyd yng Nghymru, i Gymru
  • Nid oes angen cofrestru ac mae'n rhad ac am ddim i'w ddefnyddio

Mae gen i gwestiwn nad yw wedi'i restru yma

Anfonwch e-bost atafa byddaf yn falch o helpu. Diolch.

© T. Porter    Wedi'i adeiladu â balchder yng Nghymru