↑ Yn ôl i'r brig

Preifatrwydd

Ein hathroniaeth

Rydym yn ceisio osgoi casglu unrhyw wybodaeth bersonol oddi wrthych. Nid ydym yn gofyn am eich enw na'ch cyfeiriad e-bost, yn darllen cwcis a osodwyd gan eraill, nac yn defnyddio meddalwedd dadansoddeg allanol. Os byddwch yn sganio un o'n codau QR, nid ydym yn casglu unrhyw wybodaeth bersonol.

Nid ydym yn derbyn gwybodaeth bersonol o unrhyw ffynhonnell arall neu drydydd parti, nac yn rhannu nac yn gwerthu unrhyw wybodaeth i unrhyw un arall. Nid ydym yn cyflwyno hysbysebion i chi nac yn dangos hysbysebion gan unrhyw barti arall.

Yr hyn yr ydym yn ei gasglu

Yr unig beth rydyn ni'n ei storio fel mater o drefn a allai gynnwys gwybodaeth bersonol yw'r URLs (cyfeiriadau gwe) rydych chi'n eu nodi os byddwch chi'n gofyn i ni wneud cod QR dwyieithog - mae'n rhaid storio'r rhain er mwyn i'r cod QR weithio, gan na all godau QR arferol gynnwys dau URL.

Er nad yw fel arfer yn cael ei dosbarthu fel gwybodaeth bersonol, gallai hyn fod yn wir os byddwch chi'n mewnbynnu URL sy'n cynnwys gwybodaeth fel enw unigolyn. Rydym yn storio URLs yn ddiogel yn ein cronfa ddata nes bod y cod QR wedi'i osod i ddod i ben. Mae'r dyddiad dod i ben i'w weld yn y panel 'Gosodiadau'.

Nid ydym fel arfer yn prosesu nac yn storio cyfeiriad IP ein hymwelwyr; fodd bynnag gallwn wneud hynny os byddwn yn canfod gweithgaredd amheus neu faleisus a allai beryglu sefydlogrwydd y gwasanaeth. Caiff hwn ei ddileu ar ôl 7 diwrnod.

O dan Reoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR y DU), gelwir y sail gyfreithiol rydym yn dibynnu arni ar gyfer prosesu'r data hwn yn 'fuddiant dilys', er mwyn i ni allu darparu'r gwasanaeth i chi.

Os yw cofnod cod QR sydd gennym yn cynnwys gwybodaeth bersonol mewn URL ac yr hoffech arfer eich hawl i gael gwared ar hwn neu ei ddiwygio ar unrhyw adeg cyn iddo ddod i ben, cysylltwch â ni ar preifatrwydd@qrcymraeg.com.

Byddwn yn storio eich dewis ar gyfer modd golau/tywyll ar eich dyfais, dim ond os byddwch yn gofyn i ni ac yn cytuno i hyn. Nid yw'r wybodaeth hon yn cael ei rhannu â ni.

Cwmnïau eraill a all brosesu eich data a gosod cwcis

Gall ein gwesteiwr gwasanaeth gwe Render ynghyd â'r cwmnïau seilwaith gwe y maent yn eu cyflogi, hefyd brosesu eich data. Gall hyn gynnwys trosglwyddo data i'r Unol Daleithiau, sy'n dod o dan gytundeb prosesu data i sicrhau bod safonau GDPR y DU yn dal i gael eu bodloni.

Mae Render yn defnyddio Cloudflare i sicrhau ei rwydwaith ac atal ymosodiadau maleisus. Gall Cloudflare osod cwci(s) er mwyn gwneud hyn a ystyrir yn 'hollol angenrheidiol' ar gyfer gweithrediad diogel y wefan.

Rhoi gwybod am god QR sy'n cysylltu â deunydd sarhaus neu amhriodol

Os ydych chi'n credu bod cod QR a gynhyrchwyd ar QR Cymraeg gan rywun arall yn cysylltu â deunydd sarhaus neu amhriodol, gallwch roi gwybod am y cod trwy glicio 'am y ddolen hon' yna fflagio; neu drwy e-bostio preifatrwydd@qrcymraeg.com.

Cwestiynau neu gŵynion

Y rheolydd data yw QR Cymraeg. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, pryderon neu gŵyn am ein defnydd o'ch gwybodaeth bersonol, cysylltwch â ni ar preifatrwydd@qrcymraeg.com. Gallwch hefyd gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth os ydych yn anhapus â'r ffordd yr ydym wedi defnyddio'ch data.

© T. Porter    Wedi'i adeiladu â balchder yng Nghymru