Cynlluniau
Eisiau gwneud mwy gyda QR Cymraeg? Edrychwch ar ein hystod o gynlluniau.
Mae pob cynllun yn dechrau gyda threial am ddim o 30 diwrnod, does dim angen manylion talu. Mae cynlluniau blynyddol yn 12 mis am bris 10.
Prif nodweddion:
- Mae codau'n para am gyfnod amhenodol
- Gweld cyfanswm nifer y sganiau yn ôl iaith ar gyfer pob cod
- Storio a gweld hyd at 10 o godau dwyieithog ar eich dangosfwrdd
O ran y cynllun Am ddim, gallwch hefyd:
- Gallwch olygu cyfeiriadau URL unrhyw bryd ar ôl gwneud cod
- Gallwch gael gwybodaeth ddadansoddeg sylfaenol ar gyfer pob cod (sganiau yn ôl mis, diwrnod ac iaith)
- Storio a gweld hyd at 25 o godau dwyieithog ar eich dangosfwrdd
O ran y cynllun Cryno, gallwch hefyd:
- Ychwanegu eich logo i'r dudalen lanio
- Cael gwybodaeth ddadansoddeg fanylach ar gyfer pob cod (sganiau yn ôl mis, diwrnod ac awr, ac yn ôl iaith a phlatfform porwr)
- Storio a gweld hyd at 150 o godau dwyieithog ar eich dangosfwrdd
O ran y cynllun Cychwynnol, gallwch hefyd:
- Gael hyd at 5 defnyddiwr ar draws eich sefydliad*
- Cynhyrchu dolenni y gellir eu rhannu i berchnogion ymgyrchoedd weld dadansoddeg ar gyfer eu codau
- Storio a gweld hyd at 500 o godau dwyieithog ar eich dangosfwrdd
O ran y cynllun Plws, gallwch hefyd:
- Gael hyd at 10 defnyddiwr ar draws eich sefydliad*
- Cael e-byst cryno a rheolaidd yn cynnwys gwybodaeth ddadansoddeg, a hynny ar adeg o'ch dewis
- Defnyddio logos a brandiau lluosog ar gyfer eich sefydliad
- Storio a gweld hyd at 1000 o godau dwyieithog ar eich dangosfwrdd
O ran y cynllun Pro, gallwch hefyd:
- Gael hyd at 20 defnyddiwr ar draws eich sefydliad*
- Cael sesiwn hyfforddi bwrpasol ar gyfer eich staff dros Teams ar gais (unwaith y flwyddyn)
- Storio a gweld codau diderfyn ar eich dangosfwrdd
Wedi’u cynnwys ym mhob cynllun:
- Gallwch greu codau QR dwyieithog Cymraeg/Saesneg unigryw, sydd ddim ar gael ar unrhyw blatfform cynhyrchu cod QR arall
- Gallwch ddadlwytho codau mewn fformatau SVG a PNG chlir iawn
- Sganiau diderfyn
- Gallwch olygu arddulliau botymau tudalennau glanio ar gyfer pob cod
- Gallwch osod dewisiadau ar gyfer codau newydd
- Gallwch storio'ch codau a'ch manylion personol yn ddiogel
- Dim hysbysebion a dydyn ni ddim yn gwerthu eich data
- Dim TAW yn daladwy
- Canslo unrhyw bryd (cynlluniau taledig misol)
- Talu gyda cherdyn debyd neu gredyd (cynlluniau taledig misol a blynyddol)
- Talu trwy anfoneb a throsglwyddiad banc (cynlluniau taledig blynyddol)
- 5% o'r elw yn cael ei roi i elusennau Cymru yn cyfrannu at nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (cynlluniau taledig misol a blynyddol)
Mae pob cynllun yn ddarostyngedig i'n Telerau ac Amodau. *Gellir ychwanegu defnyddwyr ychwanegol am £5 /mis y defnyddiwr.
Dydych chi ddim yn gweld y cyfuniad o nodweddion sy'n addas ar gyfer eich sefydliad? Cysylltwch â ni a gallwn ddylunio cynllun pwrpasol i chi.
Eisoes wedi cofrestru? Mewngofnodwch i newid eich cynllun